minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Mae eglwys Sant Tysilio yn un o drysorau Ynys Môn, wedi'i lleoli ar ynys fechan mewn ardal gysgodol o'r Fenai.

Adeiladwyd yr adeilad presennol yn y 15fed ganrif, ond mae'r safle yn dyddio'n ôl i Tysilio ei hun. Ymsefydlodd Tysilio yma ar ddechrau’r 7fed Ganrif ac o’r sylfaen hon cychwynnodd mewn cenhadaeth efengylaidd i holl Ynys Môn – model da ar gyfer heddiw!

Er ei fod yn fach mae'r adeilad yn boblogaidd iawn ar gyfer priodasau ac yn denu nifer sylweddol o ymwelwyr.

Mae ar agor bob dydd o'r Pasg tan y Cynhaeaf.

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio’r fynedfa, ac felly mae adeilad yr eglwys wedi datblygu arwyddocâd fel man gweddïo tawel i’r rhai sy’n cerdded llwybr yr arfordir neu’n mynd heibio. Mae grŵp ymroddedig, Cyfeillion Ynys Tysilio, yn gofalu am y safle.

Cynhelir gwasanaeth Sul unwaith y mis tra bod yr adeilad ar agor yn ddyddiol, a cheir gwasanaeth misol Iachau a Chyfanrwydd hefyd ac yn y blynyddoedd diwethaf mae Gwasanaeth Bendith Cŵn hefyd wedi ei gynnal. Yn ogystal, yr ynys, adeilad yr eglwys, a’r cyffiniau yw lleoliad Gŵyl Tysilio flynyddol a gynhelir yn yr haf yn cynnwys gwasanaethau a digwyddiadau diwylliannol.

Cymraeg

The church of St Tysilio is one of the gems of Anglesey, set on a small island in a sheltered area of the Menai Strait.

The present building was built in the 15th century, but the site dates back to Tysilio himself. Tysilio settled here in the early 7th Century and from this base set out in evangelistic mission to the whole island of Anglesey – a good model for today!

Despite its small size the building is very popular for weddings and attracts significant numbers of visitors.

It is open daily from Easter until Harvest.

The Anglesey Coastal Path passes the entrance, and so the church building has developed a significance as a quiet place of prayer for those walking the coast path or simply passing by. A dedicated group, the Friends of Church Island, care for the site.

A Sunday service is held once a month while the building is open daily, and there is also a monthly service of Healing and Wholeness and in recent years a Dog Blessing Service has also been held. In addition, the island, the church building, and its surrounds is the venue for the annual Gŵyl Tysilio (Festival) which takes place in the summer involving services and cultural events.